Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
7 Chwefror 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4081
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Dechreuodd yr eitem am 14.17
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Angela Burns (Gorllewin Caerfyddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Aelodau a yw'n bwriadu cymeradwyo cais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am grant o rhwng £4 miliwn a £6 miliwn i ariannu'r gwaith o ddatblygu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin?
Dechreuodd yr eitem am 14.30
Dechreuodd yr eitem am 14.48
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Dechreuodd yr eitem am 15.48
Dechreuodd yr eitem am 16.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6228
Jane
Hutt (Vale of Glamorgan)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.
2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.
4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.
5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull gweithredu hwn.
6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.
8. Yn mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn.
3. Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
4. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
5.
Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a gynhaliwyd yng
Nghaerdydd ac yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif Weinidog y DU i
ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r
fargen orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y
bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd,
o gofio pa mor bwysig i Gymru yw cymryd rhan mewn marchnad
sengl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
46 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6228
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.
2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.
4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.
5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull gweithredu hwn.
6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.
8. Yn mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei
datblygu er budd pennaf ein heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei
llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
18 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.35
Daeth y cyfarfod i ben am 18.37
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 8 Chwefror 2017